“Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham.”
Mathew 1:1 (Plas Castell 66.84.D.)
Addolwn Dduw â chân,
A’r nefoedd ‘nawr a’n clyw,
Y sanctaidd Dad a’r Ysbryd Glân
A Mab ein Duw.
Rhyfeddol wyrth a ddaeth
I hanes dynolryw,
Yr Arglwydd Crist ar dirion daith
I’n plith i fyw.
Y nefoedd oedd yn llon
Gan gôr angylion pur,
Gwych seren ddisglair, sôn am hon
Yn arwain gwŷr:
Brenhinoedd yn eu tro,
A rhoddion iddo’n dod,
Bugeiliaid hwythau, gwŷr y fro
Yn eilio’i glod.
Ble ’roedd y brenin mwyn?
Yn cysgu yn ei grud,
A Mair ei fam yn gwarchod swyn
Ei lwybr drud.
Pwy ydoedd baban Mair
Ond Duw mewn natur dyn?
Yn dwyn tystiolaeth, rhyfedd air
I feibion gwŷn.
Gwêl aur i frenin hedd
A thus yn offrwm glân,
A myrr yn rhodd at greulon fedd
Dros fawr a mân.
Mae Iesu Grist yn awr
Yn frenin, cadarn un,
Yn broffwyd cryf, offeiriad mawr,
Yn Dduw a dyn.
Y Gelyn sydd ar droed,
Tywysog teyrnas cas,
Ond gwêl y crud a chrog o goed
Yn hidlo gras.
Y pren ar Galfari
A gofir tra bo sant,
Tywalltwyd gwaed ein Harglwydd ni,
Do, dros Ei blant.
Clod byth i’w enw mwy
Am fuddugoliaeth syn,
Y drud ymweliad, ac am glwy’
Y plentyn gwyn.
Fe ddioddefodd loes
A rhoes ei fywyd pur
Yn aberth dros bechodau oes
Ar Groes o gur.
“Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn lachawdwriaeth i bob dyn” Titus 2:11 (66.66 D)
Addolwn Dduw ein Iôr,
Am Ei drugaredd Ef.
A chariad fel y môr
A’i dyner drefn o’r Nef.
Pa ryfedd ras all fod,
Yn cyrraedd dyn di-ras
I’w dirion drefn mae’r clod
Yn difa pechod cas.
Yr Iesu oedd ei Fab
Y dewisiedig Un.
A chynllun heb nacád
Yn cyrraedd euog ddyn.
Nid oes ei debyg Ef
Yn anfon Crist i’r byd.
Yn Ei ewyllys gref
I’n dwyn i’r nefoedd glyd.
Clod, clod i’w Enw mawr,
O bellder daear drist.
A grym Ei galon fawr
Yng nghalon Iesu Grist.
Achubiaeth llawn, sydd gan
Fy enaid bellach mwy
A’r nefoedd yw fy rhan
Trwy gariad farwol glwy.
“Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn odd mewn.”
Effesiaid 3:16 (Llwynbedw 87.87.47)
Arglwydd, gwrando ar fy ngweddi,
I bechadur estyn ras,
Gwêl fy nagrau yn mynegi
Hiraeth am gael profi blas
Gwin y nefoedd –
Rho ef imi, Iesu da.
Atgyfnertha furiau ’nghalon,
Gras ar ras, drwy’r Ysbryd Glân.
Fel y byddwyf bellach fodlon
I’th ofynion, fawr a mân.
Cymer, Iesu,
Y cwbwl weli yn dy law.
Gweld d’ogoniant a’m gwna’n fentrus,
Profi gwerth dy gariad mawr;
Agor byrth brofiadau melys
Mewn cymdeithas ddwyfol ’nawr.
Rho dy gwmni
Imi bellach, heb wahân.
Gad i’m henaid dy gofleidio,
Lled a dyfnder cariad gwyn,
A chwmpasu, wrth fyfyrio,
Uchder Crist a’i ddyfnder syn.
Yn dy foroedd
Byth heb flino nofiaf mwy.
“Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeus.” Ephesiaid 5:27 (Llwynbedw 87.87.47)
[Cyfansoddwyd ar gyfer priodas Alun a Helen Higham]
Arglwydd Iesu, gwrando weddi
Dros y briodas brydferth hon.
Rho dy bresenoldeb inni,
Gwna gyfamod gref yn llon.
Yn eu dyddiau,
Yn eu dyddiau,
Bydd yn gwmni diwahân.
Arglwydd Iesu, derbyn gynnig,
Tyrd i’n plith a gwêl dy le,
Ti y pennaf gwahoddedig,
Llanw’r lle â blas y ne’.
Mawr ein moliant,
Mawr ein moliant,
O’th gael Di, mewn hyfryd wledd.
Arglwydd Iesu, O mor felys
Yw dy gwmni ar y daith.
Pererindod anrhydeddus
Fydd eu ffordd drwy’r anial maith.
Yn dy gwmni,
Yn dy gwmni,
Gyda’th ras a chariad pur.
Arglwydd Iesu, llawn grasusau,
Arddel addewidion nawr
Teulu’r nef a’th deulu dithau
Ger dy fron mewn sanctaidd awr.
Pêr gyfamod,
Pêr gyfamod,
Trefniant Duw i deulu dyn.
“Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.”
Ioan 12:21 (Ashburton 87.87.47)
Cefais olwg ar f’anwylyd
Nad anghofiaf tra fwyf byw.
Gweld ei aberth yn troi’n fywyd
Ac yn ffordd i wyddfod Duw.
Gras yn unig
Sydd yn abl i achub dyn.
Cefais afael ar addewid,
Llawn o gysur, llawn o hedd,
Fod yr Iesu yn cyfnewid
Gwisg annheilwng, haeddiant bedd,
Am gyfiawnder
Gwisg ddisgleirwen bywyd Crist.
Cefais wybod am gwmnïaeth
A chymdeithas Iesu Grist,
Gyda’i nerth o nefol luniaeth
Ym mhob glyn trueni trist,
Sanctaidd ofal
Am Ei blant, Ei deulu drud.
Cefais wybod am drigfannau
Hapus gartref teulu’r nef,
Llonnodd hyn fy enaid innau
Fod cymdeithas gadarn gref.
Canaf glodydd
I’m hanwylyd am Ei ras.
Persain ydyw sŵn Ei enw,
Pob llythyren annwyl yw,
Balm o gysur, er fy marw
Enw Crist a’m cwyd yn fyw,
Diolch Iddo,
Hwn a gâr fy enaid llon.
“Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyradawaf chwaith.” Hebreaid 13:5 (98.98.D)
Cyfieithiad o ‘I saw a new vision of Jesus’ gan Hywel Griffiths (1949-2005),
cyfieithwyd Ionawr 1980 © Mrs. Sian Griffiths
Ces olwg o’r newydd ar Iesu
Na welais ei thebyg o’r bla’n,
Ei wedd oedd yn hardd i’w rhyfeddu,
Gogoniant ddisgleiriai fel tân;
Tra oedwn ar lannau fy ngwendid
A syllu mewn ofn ar y lli
Ymddangos wnaeth Iesu f’Anwylyd
Mewn tegwch digwmwl i mi.
Fy Mhrynwr ni’m gad mewn dioddefaint,
Caf weld ei wynepryd yn glir;
Trwy ras y mae’n achub ei geraint,
Addewid ei gwmni sydd wir;
Yn nh’wyllwch ac oerni y dyffryn,
Dan gysgod teyrnasiad y fall,
Deheulaw fy Iesu sy’n estyn
I’m codi – a dim ond ef all.
Cans draw mae’r goleuni tragwyddol
Yn t’wynnu dros angau a bedd;
Ein Crist gogoneddus, brenhinol
A’n dwg yn ddiogel i’w hedd:
Yn Nuw y daw’r siwrnai i’w diwedd,
A gwlad ei ogoniant yw hi
Lle gwelir holl blant ei drugaredd
Yn moli am boen Calfari.
“Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion.”
1 Pedr 2:1 (Wyddgrug 87.87.67)
Creaist yn fy nghalon hiraeth
Am gael dod i gwrdd â Thi,
I gael profi sanctaidd luniaeth
A chymdeithas nefol Ri.
Nid oes un
A’m bodlona onid Hwn.
Er y chwilio a’r deisyfu
A’r mwynhad ym mhethau’r llawr,
Ni does yma ddim a bery
Ac a geidw nghalon ’nawr.
Neb ond Ti,
Ti yw ’nhrysor, Ti yw ’nghân.
Prysur eiriau, lleisiau dynion
Am fy ennill, am fy nghael,
Eto er eu holl ddadleuon
Popeth sydd yn wag a gwael.
Gair fy Nuw
A’m bodlona’n hollol mwy.
Yn Ei aberth gwêl drugaredd,
Taliad o anfeidrol ryw,
Dyma’r man mae’n rhaid ei gyrraedd
Er mwyn profi hedd â Duw.
Yn Ei waed,
Rhaid ymolchi er glanhad.
“Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? A phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?”
Salm 24:3 (Blaencefn 87.87.47)
Diolch am Dy dyner ofal,
Am gynhaliaeth grasol Dri,
’Nôl ymhell yn nydd tragwyddol
Trefnwyd ffordd i’n cadw ni.
Duw yn dewis
Saint i’w deyrnas er Ei glod.
Diolch am yr adnabyddiaeth,
Am brofiadau melys gras,
Am ein dwyn i fynydd gobaith,
Am gael dringo’i lethrau glas.
O am olwg
Ar Ei degwch, ar Ei wedd.
Pwy a esgyn uchelfannau
A chopaon gwyddfod Duw?
Neb ond saint sydd â’u calonnau
Wedi eu golchi trwy Ei friw.
Pur eu calon,
Dwylo, bywyd iddo mwy.
Benedigedig ydyw gwybod
Am Ei gariad nos a dydd,
A rhyfeddol yw adnabod
Iesu Grist drwy sanctaidd ffydd.
Rhoddodd inni
Obaith sicr am gael byw.
Pwy a saif yn nydd datguddiad?
Pwy a saif o flaen ein Duw?
Ond credadun saif ar gariad –
Addewidion cryf caf fyw.
Sefyll felly:
Diogel fyddwn rwy Ei ras.
“Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau cerrig, eithr mewn llechau cnawdol y galon.”
2 Corinthiaid 3:3 (Llansannan 87.87.D)
Edrych ar fy nghalon ’styfnig,
Arglwydd Iôr, a thrugarha,
Nid oes gennyf ddim i’w gynnig,
Ond fy mhechod mawr a’m pla.
Gwelaf ar y mur anobaith
Eiriau Duw yn datgan dig:
Mewn cloriannau cywir perffaith
Gwelais bellach faint fy ffug.
Rho oleuni, dyro afael
Ar wirionedd glân ein Duw,
Brenin hedd a brenin Israel
Yn datguddio geiriau byw.
Rho wybodaeth am rinwedddau
Angau’r groes, a ffynnon gras,
A bod gobaith cryf i ninnau
Am faddeuant pur ei flas.
Ysgrifenna mewn llythrennau
Gyda gwaed ein Harglwydd hael,
Neges bur ar ein calonnau
Bod trugaredd eto i’w chael.
Byth yn angof mewn llythyren
Llawn o ras, ar femrwn Duw:
Heb ddileu y lân ysgrifen,
Gobaith tragwyddoldeb yw.
“Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyradawaf chwaith.” Hebreaid 13:5 (98.98.D)
Cyfieithiad o‘I saw a new vision of Jesus’ gan Gaenor Roberts (1937-2009)
© W.V.Higham Trust
Fe ges weledigaeth o’r Iesu
Golygfa mor newydd i mi
Ei weld mewn gogoniant mor hynod
Mewn harddwch ac urddas a bri
Fe sefais ar lan fy holl wendid
A braw aeth trwy ’nghalon fel cledd
Yn sydyn fe welais o’r newydd
Ei Berson, a’i gariad llawn hedd.
Ni phalla fy Ngheidwad fy ngharu
Tosturi a ddengys i mi.
Ei Berson anfeidrol a grasol
Yn achub Ei bobl yn llu.
Pan rodiaf drwy gysgod y dyffryn
Gan syllu ar uffern a gwae
Fy Iesu ddaw ataf bryd hynny
A’m gwared â’i gariad di-drai.
Draw mhell mae goleuni tragwyddol
Yn taenu dros ddyffryn di-hedd,
Yr Iesu, y Brenin sydd yno
Yn gwared rhag ofnau y bedd.
Ein Duw ydyw nôd yr holl deithio
A’i nef fydd yn noddfa i ni
Ac yno mae’r holl waredigion
Yn moli am boen Calfari.
“O’r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd.”
Salm 130:1 (Llandinam 87.87.47)
Galwaf arnat o’r dyfnderoedd
Am dy sylw, Iesu da,
Tro dy olwg yn dy nefoedd
Ar fy nghyflwr, ar fy mhla.
A oes gobaith
I bechadur weld y nef?
Clyw fy nghalon yn ymbilio
Am ryw obaith dod i’r lan,
Nid oes gennyf i gyflwyno
Ddim a gyfrif ar fy rhan,
Er y chwilio,
Gwag fy nwylo, gwael fy ngwedd.
Clywais sibrwd am drugaredd
Am faddeuant, ac am ras,
Clywais sôn am goncwest ryfedd
Ac am ddiwedd angau cas.
Llonna f’enaid
Ag efengyl gobaith byw.
Oes, mae gobaith i bechadur
Brofi’r etifeddiaeth lân,
Croeso gaiff gan deg Waredwr
Ddeffry ynddo fythol gân,
Fod pechadur
Yn cael dod i’r nefoedd wen.
Mentraf bellach at Ei orsedd
Hapus drugareddfa lân,
Gan ymofyn am drugaredd
Am bechodau fawr a mân,
Maddau’r cwbwl,
Gwaed y groes sy’n symud bai.
“Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi.” Luc 11:9 (Dolfor 87.87.67)
Mae fy nghalon yn ymofyn
Am y doniau sydd o Dduw,
Dysgu sut i garu gelyn,
Derbyn gras yn fodd i fyw.
Gofyn ’r wyf
I Ti roi o’th gariad im.
Mae fy enaid yn dy geisio
Fel Gwaredwr dros fy mai,
Pur faddeuant ’r wy’n ’ddymuno,
Heddwch nef sydd yn parhau.
Ceisio ’r wyf
Feddiant ar faddeuol ras.
Curo ’r wyf am sanctaidd ddoniau,
Dwyfol ernes plant y ffydd,
Nerth i ddweud am ryfeddodau,
Sôn am f’Arglwydd nos a dydd.
Curo wnaf,
Nes agorir drysau’r nef.
Deuaf atat, Arglwydd grasol,
Ti yw ’Nhad O clyw fy nghri,
Gennyt ti mae nerth rhyfeddol,
Parod wyt i’m gwrando i.
Deisyf wnaf:
Dyro i mi’r Bara byw.
“Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghyd-ffurfio â’i farwolaeth ef.” Philipiaid 3:10 (S. Matthew D.C.M.)
Cyfieithiad o ‘Deep in my heart there is a sigh’ gan Hywel Griffiths (1949-2005),
cyfieithwyd Gorffennaf 1981 © Mrs. Sian Griffiths
Mae hiraeth dwys o dan fy mron,
O Iôr, amdanat ti;
Am blymio dyfnder maith y don
O ras, o Galfari.
Rho olwg i’m tu hwnt i len
Rhyfedd ddirgelion nef,
Ac wrth d’adnabod dithau’n Ben
Caf ufuddhau i’th lef.
Mae hiraeth arnaf am gael byw
Trwy atgyfodiad Crist;
A’th ras yn tanio’r golau gwyw
A fygodd pechod trist;
Gad i’m ddarganfod tarddiad ir
Llawenydd gwir dy nerth
Sy’n llifo ataf i’m cryfhau
Ar hyd y llwybrau serth.
Cymundeb o ddioddefaint sydd
O fewn dy galon di;
Trwy boen a dagrau’r enaid prudd
Tragwyddol ennill sy:
O dyro’r wefr i minnau’n awr –
Cryndodau gras yn ôl –
’D oes all ddinistrio’r cyfoeth mawr
Tragwyddol sy’n fy nghôl.
Dysg imi daflu i lawr fy mhwn,
Hunanol bechod cas,
Treiddia i’r plisgyn marw hwn
Nes i’m orlifo â’th ras;
Argraffa ddelw Iesu pur
Ar lech y galon hon,
Ac yna mewn llawenydd gwir
Caf wylo ar dy fron.
“Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf” Galatiaid 4:4 (66.66 D)
O bell y gwelodd fi,
Yn nhragwyddoldeb draw,
Cyn creu, cyn bod, cyn si,
Am greadigaeth ddaw
Ymhell yng nghalon Duw.
Y Drindod oll gytûn
Wrth weled dynolryw
Ac achub euog ddyn.
Fe ddaeth y dydd a’r awr,
I anfon Crist i’r byd.
Y boen, y Groes oedd fawr
I dalu dyled ddrud.
Y ddeddf ni farna mwy
Y ddyled ar y Groes,
A gweld ei farwol glwy’
A’i fywyd glân a roes.
Nawr gobaith daeth i’n bron
Wrth brofi cariad drud,
Fy enaid gwnaeth yn llon,
Rhown glod i Geidwad byd,
Y nefoedd lawenha,
Am ddyfais Duw i ni,
Gogoniant a barha
A’n gorfoleddus gri.
“Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd.”
Salm 60:4 (Saron M.C.)
O beth yw’r pla ar eglwys Dduw,
Y gwir yn dioddef brad?
Hoff iaith y nefoedd, estron yw
Ar wefus gwerin gwlad.
Mawr sôn am fendith dyddiau gynt
Sydd ddieithr i bob bron,
Ond hiraeth am y nerthol wynt
Sy’ o fewn i’r fynwes hon.
Tyner dy ofal am dy blant,
A mawr Dy gariad Di:
O paid â gwrthod gweddi sant
Yn haeddiant Calfari.
Dy gysur cryf, dy ddychryn mawr
O anfon arnom ni,
I godi d’Eglwys ar y llawr
O clyw, o clyw fy nghri.
“Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyflawnhau trwy ei waed ef, y’n h’achubir rhag digofaint trwyddo ef.” Rhufeiniaid 5:8,9 (8 10. 10 4)
Cyfieithiad o ‘O Son of Man, O Son of God’ gan Gaenor Roberts (1937-2009)
© W.V.Higham Trust. v.4 gan W. Vernon Higham (b. 1926)
O Fab y Dyn, O Fab Dduw Iôr,
Rhyfeddol gynllun y tragwyddol râs
A ddaeth a chroes a phoen i’th ran – a gwarth
Ein pechod cas.
O Grist y groes, O sanctaidd waed
O fywyd perffaith, hardd heb nam na chwyn,
Cyflawni wnest orchmynion Deddf ein Duw
Oll er ein mwyn.
O gwpan gwarth, O ddrudfawr swydd
Yn derbyn drosof lid sancteiddrwydd Duw
Ac yn fy lle bu farw Crist yr Oen
I mi gael byw.
O gariad Duw, dy ras fel môr,
Fod angau drud a phoenus friw Mab Duw,
Yn talu dyled pechod er fy mwyn.
Diderfyn stôr.
O ryfedd rym llifogydd gwaed
A chariad Crist arllwyswyd drosof fi
O Iesu tirion, dyma wyrthiol ras! –
Moliant i Ti.
Tangnefedd ddaeth trwy waed yr Oen,
Tangnefedd Duw o fewn fy enaid byw
Heddwch i’r galon pan ddaw Ef drachefn.
Fy Nghrist a’m Duw.
“Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd.” Salm 133:1 (87.87.D)
O mor hyfryd ydyw trigo
Gyda’r brodyr yn gytûn:
Undeb grasol sy’n preswylio,
Gwlith y nefoedd, sanctaidd rin.
Enaint Duw sy’n dywalltedig
Ar eneidiau’n plygu glin.
Cariad calon, gras gweledig,
Bendith Duw mewn dyddiau blin.
Gwêl dy Eglwys yma’n gorwedd,
Bedd amheuaeth yw ei rhan,
Edrych ar ei brad a’i chamwedd,
Gwaeledd gwedd, ni ddaw i’r lan.
’Ble’r aeth hiraeth plant yr Iesu?
Ni ddaw deigryn ar eu grudd:
Nid oes yma neb yn caru,
Neb yn canmol, cysgod sydd!
Clywais am dy hen drugaredd,
I annheilwng Israel gynt,
Edrych ar dy blant mewn llesgedd,
Cystudd blin a chrwydrol hynt.
Anfon eto drwm gawodydd,
Tywallt ras ac egni’r nef;
Sôn am Iesu, gwaed ein Llywydd,
A maddeuant yw ein llef.
“Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd.” Actau 2:2 (Lloyd M.C.)
Pa gyffro mawr fu’r dyddiau gynt
Am awel nefol gref
Yn ysgwyd dynion ar eu hynt,
Yn datgan Teyrnas Nef?
Rhyfeddol dân ar weision syn,
Athrylith newydd gaed:
Cyhoeddi’r gair am ben y bryn
A rhin Ei ddwyfol waed.
Y gair am farw Calfari,
Maddeuant am bob bai,
Ac yna’r Atgyfodi fry
I nerthu eiddil rai.
O chwŷth dy wynt, O Ysbryd Glân,
Rho Bentecost i ni,
Ar enaid swrth rho fedydd tân
I sôn am Galfari.
O chwâl y pla sydd ’nawr ar led,
Ac anghrediniaeth du,
A dyro nerth i deulu’r cred
I drechu’r drwg a’i lu.
Dy ras, dy ddawn, dy allu mawr
Yw’n cais – O tyrd ar frys,
A paid â’n gadael ar y llawr
Heb dyst o’th uchel lys.
“Ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych.”
1 Pedr 1:12 (Bod Alwyn M.B.)
Pêr ydyw enw Duw,
Mwyn ydyw geiriau gras,
Bendith yw gwybod am Ei friw
Ar fynydd tyner glas.
Swynol yw cân y nef,
Llawen yw cerdd y côr,
Rhyfedd ddatguddiad ynddo Ef,
Uniganedig Iôr.
Gwyrthiol Ei eni gwiw,
Perffaith Ei fywyd gwyn,
Sanctaidd Ei aberth glân a’i friw,
Rhyfedd eiriolaeth syn.
Wele angylion Iôr
Draw mewn rhyfeddol nef,
Gweld Ei ddoethineb, sanctiadd stôr
Yn Ei efengyl Ef.
Pwy fel Efe i ni?
Gobaith pechadur pell,
Gwelodd ein pellter, clywais gri
Am etifeddiaeth well.
Brysiodd Ei ras yn rhydd,
Rhedodd Ei gariad cu,
Cododd trugaredd f’enaid prudd,
Cuddiodd tangnefedd fi.
“Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghyd-ffurfio â’i farwolaeth ef.” Philipiaid 3:10 (S. Matthew D.C.M.)
Cyfieithiad o ‘Deep in my heart there is a sigh’ gan Gaenor Roberts (1937-2009)
© W.V.Higham Trust
Trwy ing fy nghalon o fy Nuw
Clyw fy hiraethus gri
Am fedru treiddio dyfnder gras
A chariad Calfari.
Argraffa ar fy enaid dwys
D’ogoniant disglair, clir
Dysg i’m ufudd-dod trwy Dy nerth
A’th ’nabod Di yn wir.
Dyhead sydd o’m mewn yn awr
I brofi bywiol ras
Atgyfodedig nerth fy Nuw
I orchfygu’m mhechod cas.
Tyn f’enaid at y ffynnon wiw
A dardd o’r nef yn gudd.
Trwy olchi ynddi cymorth gaf
A nerth o ddydd i ddydd.
Yn nyfnder cariad calon Duw
Cyd-deimlo wna â’m poen,
Tragwyddol fudd a ddaeth i’m rhan –
Dioddefaint Iesu’r Oen.
O, Arglwydd gad i’m deimlo gwefr
Llawenydd mawr Dy ras –
A sudda f’enaid yn y Crist;
Hwn drechodd uffern gas.
O arwain fi, trwy hynod ffordd
I fyw heb bechod nawr
Marw i’r hunan trwy Dy gledd
A’th holl rasusau mawr.
O dyro i’m ryw newydd wedd
O’th harddwch, ac o’th groes;
Trwy ddagrau, plygaf ger Dy fron
Mewn cariad, gydol f’oes.
“Clywais, O Arglwydd, dy air, ac ofnais: O Arglwydd, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd.”
Habacuc 3:2 (Glanhafren 64.64.66.64)
Tywysog teyrnas lân,
O clyw ein cri,
A chymer Di ein rhan
A chofia ni.
O edrych Iesu da,
A gwêl ein crwydro ffôl,
A dychwel ni o’n pla,
Drachefn i’th gôl.
Bu sôn am waith dy ras
Gynt dros y wlad,
Pan giliodd pechod cas
A phob rhyw frad.
Ond beth yw’r hanes gynt
O gysur ac o hedd,
Os na ddaw nerthol wynt
A thanillyd gledd?
Amheuon ’ddaeth i’n tir
Lle gynt ’bu cred,
A gelyn i bob gwir
A thrais ar led.
O Dduw y nefoedd lân,
A Thad ein Harglwydd ni,
Rho swyn i’r fron, a chân
Am Galfari.
Rho hiraeth dan fy mron
I losgi’n bur,
A thân yn llewyrch llon:
Gwirionedd clir.
O am gael gweld y dydd,
Y bydd yr Arglwydd Iôr,
Yn symud baich y prudd:
O’i wyrthiol stôr.